1 Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol. Bydd yn ddiwrnod i chwi ganu'r utgyrn
2 ac offrymu poethoffrwm yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef un bustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd di-nam;
3 hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer y bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer yr hwrdd,
4 a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
5 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.
6 Y mae hyn yn ychwanegol at y poethoffrwm misol a'i fwydoffrwm, y poethoffrwm rheolaidd a'i fwydoffrwm, a'u diodoffrwm, yn ôl y ddeddf ar eu cyfer; byddant yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.