13 Offrymwch boethoffrwm yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef tri ar ddeg o fustych ifainc, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd; byddant yn ddi-nam;
14 hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, tair degfed ran ar gyfer pob un o'r tri ar ddeg o fustych, dwy ddegfed ran ar gyfer pob un o'r ddau hwrdd,
15 a degfed ran ar gyfer pob un o'r pedwar ar ddeg o ŵyn;
16 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm a'i ddiodoffrwm.
17 “Ar yr ail ddydd: deuddeg bustach ifanc, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
18 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
19 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'u diodoffrymau.