16 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm a'i ddiodoffrwm.
17 “Ar yr ail ddydd: deuddeg bustach ifanc, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
18 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
19 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'u diodoffrymau.
20 “Ar y trydydd dydd: un ar ddeg o fustych, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
21 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
22 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.