26 “Ar y pumed dydd: naw bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
27 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
28 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
29 “Ar y chweched dydd: wyth bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
30 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
31 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
32 “Ar y seithfed dydd: saith bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,