32 “Ar y seithfed dydd: saith bustach, dau hwrdd, a phedwar ar ddeg o ŵyn blwydd di-nam,
33 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustych, yr hyrddod, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
34 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.
35 “Ar yr wythfed dydd, yr ydych i gynnal cynulliad, a pheidio â gwneud dim gwaith arferol.
36 Offrymwch boethoffrwm yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, sef bustach, hwrdd, a saith oen blwydd di-nam,
37 gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm ar gyfer y bustach, yr hwrdd, a'r ŵyn, yn ôl eu nifer ac yn unol â'r ddeddf ar eu cyfer;
38 hefyd un bwch gafr yn aberth dros bechod, yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd, ei fwydoffrwm, a'i ddiodoffrwm.