14 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai,
15 “Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn ôl eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd.”
16 Felly cyfrifodd Moses hwy yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
17 Enwau meibion Lefi oedd: Gerson, Cohath a Merari.
18 Dyma enwau meibion Gerson yn ôl eu tylwythau: Libni a Simei.
19 Meibion Cohath yn ôl eu tylwythau: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel.
20 Meibion Merari yn ôl eu tylwythau: Mahli a Musi. Dyma dylwythau'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.