41 Yna, neilltua'r Lefiaid i mi yn lle pob cyntafanedig o blith pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle'r cyntafanedig o'u hanifeiliaid hwy; myfi yw'r ARGLWYDD.”
42 Felly cyfrifodd Moses bob cyntafanedig o blith pobl Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
43 Ar ôl cyfrif pob gwryw cyntafanedig mis oed a throsodd, a'u rhestru wrth eu henwau, yr oedd eu cyfanswm yn ddwy fil ar hugain dau gant saith deg a thri.
44 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
45 “Neilltua'r Lefiaid yn lle pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwy. Bydd y Lefiaid yn eiddo i mi; myfi yw'r ARGLWYDD.
46 Yn iawn am y plant cyntafanedig sy'n eiddo i bobl Israel, sef y dau gant saith deg a thri sy'n rhagor nag eiddo'r Lefiaid,
47 cymer am bob un ohonynt bum sicl, yn ôl sicl y cysegr sy'n pwyso ugain gera;