47 cymer am bob un ohonynt bum sicl, yn ôl sicl y cysegr sy'n pwyso ugain gera;
48 yna rho'r arian sy'n iawn drostynt i Aaron a'i feibion.”
49 Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai oedd yn ychwanegol at y nifer a brynwyd trwy'r Lefiaid,
50 ac am blant cyntafanedig Israel cafodd fil tri chant chwe deg a phump o siclau, yn ôl sicl y cysegr.
51 Yna rhoddodd Moses i Aaron a'i feibion yr arian a gymerodd yn iawn, yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.