5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6 “Tyrd â llwyth Lefi yma, a'u penodi i wasanaethu Aaron yr offeiriad.
7 Byddant yn gweini arno ef a'r holl gynulliad o flaen pabell y cyfarfod, ac yn gwasanaethu yn y tabernacl.
8 Hwy fydd yn gofalu am ddodrefn pabell y cyfarfod ac yn gweini ar bobl Israel trwy wasanaethu yn y tabernacl.
9 Yr wyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion; hwy yn unig o blith pobl Israel a gyflwynir yn arbennig iddo ef.
10 Yr wyt i urddo Aaron a'i feibion i wasanaethu fel offeiriaid; ond rhodder i farwolaeth bwy bynnag arall a ddaw'n agos.”
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,