4 ac yntau'n clywed am ei hadduned a'i hymrwymiad, ond heb ddweud dim wrthi, yna bydd pob adduned a phob ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll.
5 Ond os bydd ei thad yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, ni fydd unrhyw adduned nac ymrwymiad o'i heiddo yn sefyll; bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi gan i'w thad ei gwahardd.
6 Os bydd gwraig briod yn gwneud adduned neu'n ei rhoi ei hun dan ymrwymiad yn fyrbwyll,
7 a'i gŵr yn clywed am hynny ond heb ddweud dim wrthi, yna bydd ei haddunedau a'i hymrwymiadau yn sefyll.
8 Ond os bydd ei gŵr yn gwahardd ei hadduned pan glyw amdani, y mae i ddiddymu ei hadduned a'i hymrwymiad byrbwyll, a bydd yr ARGLWYDD yn maddau iddi.
9 Bydd pob adduned a wneir gan weddw neu gan un a gafodd ysgariad, a phob ymrwymiad o'i heiddo, yn sefyll.
10 Os gwnaeth adduned, neu dyngu llw i'w rhoi ei hun dan ymrwymiad, tra bu yn nhŷ ei gŵr,