1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2 “Yr wyt i ddial ar y Midianiaid ar ran pobl Israel; yna fe'th gesglir at dy bobl.”
3 A dywedodd Moses wrth y bobl, “Arfogwch ddynion o'ch plith iddynt ryfela yn erbyn Midian, a dial arni ar ran yr ARGLWYDD.
4 Anfonwch fil o bob un o lwythau Israel i'r rhyfel.”
5 Felly, o blith tylwythau Israel, penodwyd mil o bob llwyth, deuddeng mil i gyd, wedi eu harfogi ar gyfer rhyfel.
6 Anfonodd Moses hwy i'r frwydr, mil o bob llwyth, ynghyd â Phinees fab Eleasar yr offeiriad, i gludo llestri'r cysegr a'r trwmpedau i seinio rhybudd.