14 Ond digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a oedd wedi dychwelyd ar ôl brwydro yn y rhyfel,
15 a dywedodd wrthynt, “A ydych wedi arbed yr holl ferched?
16 Dyma'r rhai, ar orchymyn Balaam, a wnaeth i bobl Israel fod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD yn yr achos ynglŷn â Peor, pan ddaeth pla i ganol cynulliad yr ARGLWYDD.
17 Yn awr, lladdwch bob bachgen ifanc, a phob merch sydd wedi cael cyfathrach rywiol gyda dyn,
18 ond arbedwch i chwi eich hunain bob geneth ifanc nad yw wedi bod gyda dyn.
19 Y mae pob un ohonoch sydd wedi lladd rhywun, neu wedi cyffwrdd â chorff rhywun a laddwyd, i aros y tu allan i'r gwersyll am saith diwrnod; ar y trydydd a'r seithfed dydd yr ydych i'ch glanhau eich hunain a'r carcharorion sydd gyda chwi.
20 Yr ydych hefyd i lanhau pob gwisg, a phopeth a wnaed o groen neu o flew gafr, a phob offer pren.”