20 Yr ydych hefyd i lanhau pob gwisg, a phopeth a wnaed o groen neu o flew gafr, a phob offer pren.”
21 Dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr oedd wedi mynd i'r frwydr, “Dyma'r rheol yn ôl y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses:
22 dim ond aur, arian, pres, haearn, alcam a phlwm,
23 sef popeth sy'n gallu gwrthsefyll tân, sydd i'w dynnu trwy dân er mwyn ei buro, a'i lanhau â dŵr puredigaeth; y mae popeth na all wrthsefyll tân i'w dynnu trwy'r dŵr yn unig.
24 Golchwch eich dillad ar y seithfed dydd, a byddwch lân; yna cewch ddod i mewn i'r gwersyll.”
25 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
26 “Yr wyt ti, Eleasar yr offeiriad, a phennau-teuluoedd y cynulliad, i gyfrif yr ysbail a gymerwyd, yn ddyn ac anifail,