25 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
26 “Yr wyt ti, Eleasar yr offeiriad, a phennau-teuluoedd y cynulliad, i gyfrif yr ysbail a gymerwyd, yn ddyn ac anifail,
27 a'i rannu'n ddau rhwng y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr a'r holl gynulliad.
28 Oddi wrth y rhyfelwyr a aeth i'r frwydr, cymer yn dreth i'r ARGLWYDD un o bob pum cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, neu ddefaid.
29 Cymerwch hyn o'u hanner hwy, a'i roi i Eleasar yr offeiriad fel offrwm i'r ARGLWYDD.
30 Yna, o'r hanner sy'n eiddo i bobl Israel, cymer un o bob hanner cant, boed o ddynion, eidionau, asynnod, defaid neu anifeiliaid eraill, a'u rhoi i'r Lefiaid sy'n gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD.”
31 Gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.