32 Dyma'r ysbail oedd yn weddill o'r hyn a gymerodd y rhyfelwyr: chwe chant saith deg pump o filoedd o ddefaid,
33 saith deg dwy o filoedd o eidionau,
34 chwe deg un o filoedd o asynnod,
35 a thri deg dwy o filoedd o bobl, sef pob merch nad oedd wedi cael cyfathrach rywiol â dyn.
36 Yr oedd cyfran y rhyfelwyr yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid,
37 ac yr oedd chwe chant saith deg a phump o'r defaid yn dreth i'r ARGLWYDD;
38 yr oedd tri deg chwech o filoedd o eidionau, a saith deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD;