33 saith deg dwy o filoedd o eidionau,
34 chwe deg un o filoedd o asynnod,
35 a thri deg dwy o filoedd o bobl, sef pob merch nad oedd wedi cael cyfathrach rywiol â dyn.
36 Yr oedd cyfran y rhyfelwyr yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid,
37 ac yr oedd chwe chant saith deg a phump o'r defaid yn dreth i'r ARGLWYDD;
38 yr oedd tri deg chwech o filoedd o eidionau, a saith deg a dau ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD;
39 yr oedd tri deg o filoedd a phum cant o asynnod, a chwe deg ac un ohonynt yn dreth i'r ARGLWYDD;