4 Anfonwch fil o bob un o lwythau Israel i'r rhyfel.”
5 Felly, o blith tylwythau Israel, penodwyd mil o bob llwyth, deuddeng mil i gyd, wedi eu harfogi ar gyfer rhyfel.
6 Anfonodd Moses hwy i'r frwydr, mil o bob llwyth, ynghyd â Phinees fab Eleasar yr offeiriad, i gludo llestri'r cysegr a'r trwmpedau i seinio rhybudd.
7 Aethant i ryfela yn erbyn Midian, gan ladd pob gwryw, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
8 Ymhlith y rhai a laddwyd yr oedd pum brenin Midian, sef Efi, Recem, Sur, Hur a Reba; lladdasant hefyd Balaam fab Beor â'r cleddyf.
9 Cymerodd yr Israeliaid wragedd Midian a'u plant yn garcharorion, a dwyn yn ysbail eu holl wartheg a'u defaid a'u heiddo i gyd.
10 Llosgwyd yr holl ddinasoedd y buont yn byw ynddynt, a'u holl wersylloedd,