43 yn eiddo i'r cynulliad), yn cynnwys tri chant tri deg saith o filoedd a phum cant o ddefaid,
44 tri deg chwech o filoedd o eidionau,
45 tri deg o filoedd a phum cant o asynnod,
46 ac un fil ar bymtheg o bobl.
47 O gyfran yr Israeliaid, cymerodd Moses un o bob hanner cant o ddynion ac o anifeiliaid, a'u rhoi i'r Lefiaid oedd yn gofalu am dabernacl yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
48 Yna daeth y rhai oedd yn swyddogion dros filoedd y fyddin, sef capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, at Moses
49 a dweud wrtho, “Y mae dy weision wedi cyfrif y rhyfelwyr a roddaist dan ein hawdurdod, a chael nad ydym wedi colli'r un ohonynt.