19 Ond ni fyddwn ni'n cymryd etifeddiaeth gyda hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, oherwydd rhoddwyd etifeddiaeth i ni yr ochr yma, o'r tu dwyrain i'r Iorddonen.”
20 Dywedodd Moses wrthynt, “Os gwnewch hyn, a chymryd arfau a mynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD,
21 ac os â pob dyn arfog sydd yn eich plith dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a gyrru ei elynion allan,
22 a darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD, yna cewch ddychwelyd, a byddwch yn rhydd o'ch dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel, a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi gerbron yr ARGLWYDD.
23 Ond os na wnewch hyn, byddwch yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, a chewch wybod y bydd eich pechod yn eich dal.
24 Adeiladwch ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch praidd, a gwnewch yr hyn a addawsoch.”
25 Dywedodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben wrth Moses, “Fe wna dy weision fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn.