31 Atebodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben, “Fe wnawn fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'th weision.
32 Awn drosodd i wlad Canaan yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, a chadwn ein hetifeddiaeth yr ochr yma i'r Iorddonen.”
33 Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch.
34 Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer,
35 Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,
36 Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd.
37 Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim,