34 Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer,
35 Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,
36 Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd.
37 Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim,
38 Nebo, Baal-meon, a Sibma, a rhoddwyd enwau newydd ar y dinasoedd a adeiladwyd ganddynt.
39 Aeth meibion Machir fab Manasse i Gilead, a'i meddiannu, a gyrrwyd ymaith yr Amoriaid oedd yno.
40 Rhoddodd Moses Gilead i Machir fab Manasse, ac fe ymsefydlodd ef yno.