6 Ond dywedodd Moses wrth dylwyth Gad a thylwyth Reuben, “A yw eich brodyr i fynd i ryfel tra byddwch chwi'n eistedd yma?
7 Pam yr ydych am ddigalonni pobl Israel rhag mynd drosodd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt?
8 Dyma a wnaeth eich hynafiaid pan anfonais hwy o Cades-barnea i edrych y wlad,
9 oherwydd pan aethant i fyny i ddyffryn Escol a'i gweld, dechreusant hwythau ddigalonni pobl Israel rhag mynd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt.
10 Enynnodd llid yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, a thyngodd a dweud,
11 ‘Am nad ydynt wedi fy nilyn yn ffyddlon, ni chaiff neb o'r rhai a ddaeth i fyny o'r Aifft, ac sy'n ugain oed a throsodd, weld y wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob,
12 ar wahân i Caleb fab Jeffunne y Cenesiad a Josua fab Nun, oherwydd darfu iddynt hwy ddilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon.’