21 (yna, wedi i'r offeiriad beri i'r wraig dyngu llw'r felltith, fe ddywed wrthi) “boed i'r ARGLWYDD dy wneud yn felltith ac yn llw ymhlith dy bobl trwy bydru dy glun a chwyddo dy groth;
22 bydd y dŵr hwn sy'n achosi melltith yn mynd i mewn i'th ymysgaroedd, ac yn peri i'th groth chwyddo ac i'th glun bydru.” Yna bydd y wraig yn dweud, “Amen, Amen.”
23 “ ‘Yna bydd yr offeiriad yn ysgrifennu'r melltithion hyn mewn llyfr ac yn eu golchi ymaith i'r dŵr chwerw;
24 bydd yn peri i'r wraig yfed y dŵr chwerw sy'n achosi melltith, a bydd y dŵr, o'i yfed, yn peri artaith chwerw iddi.
25 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd y bwydoffrwm dros eiddigedd o ddwylo'r wraig, ac yn ei chwifio gerbron yr ARGLWYDD cyn dod ag ef at yr allor.
26 Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r bwydoffrwm fel offrwm coffa, ac yn ei losgi ar yr allor; yna fe wna i'r wraig yfed y dŵr.
27 Os bu i'r wraig ei halogi ei hun a bod yn anffyddlon i'w gŵr, bydd y dŵr, wedi iddi ei yfed, yn achosi melltith ac yn peri artaith chwerw iddi. Bydd ei chroth yn chwyddo a'i chlun yn pydru, a bydd y wraig yn felltith ymhlith ei phobl.