13 “ ‘Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nasaread, pan ddaw cyfnod ei ymgysegriad i ben: deuer ag ef at ddrws pabell y cyfarfod
14 lle bydd yn cyflwyno offrymau i'r ARGLWYDD, sef oen gwryw di-nam yn boethoffrwm, hesbin ddi-nam yn aberth dros bechod, a hwrdd di-nam yn heddoffrwm,
15 ynghyd â basgedaid o fara croyw, teisennau peilliaid wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, ynghyd â'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm.
16 Bydd yr offeiriad yn dod â hwy gerbron yr ARGLWYDD ac yn offrymu ei aberth dros bechod a'i boethoffrwm;
17 bydd hefyd yn offrymu'r hwrdd yn heddoffrwm i'r ARGLWYDD ynghyd â'r basgedaid o fara croyw, y bwydoffrwm a'r diodoffrwm.
18 Bydd y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod yn eillio ei ben, a gysegrwyd ganddo, a bydd yn cymryd y gwallt ac yn ei roi ar y tân a fydd dan aberth yr heddoffrwm.
19 Wedi i'r Nasaread eillio ei ben, a gysegrwyd ganddo, bydd yr offeiriad yn cymryd ysgwydd yr hwrdd ar ôl ei ferwi, a theisen a bisged heb furum o'r fasged, a'u rhoi yn nwylo'r Nasaread,