21 “ ‘Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nasaread sy'n gwneud adduned: bydd ei offrwm i'r ARGLWYDD yn unol â'i adduned, ac y mae i ychwanegu ato beth bynnag arall y gall ei fforddio. Y mae i weithredu yn ôl yr adduned a wnaeth ac yn ôl deddf ei ymgysegriad fel Nasaread.’ ”
22 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
23 “Dywed wrth Aaron a'i feibion, ‘Yr ydych i fendithio pobl Israel a dweud wrthynt:
24 “ ‘Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio a'th gadw;
25 bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;
26 bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch.’
27 “Felly gosodant fy enw ar bobl Israel, a byddaf finnau'n eu bendithio.”