9 “ ‘Os bydd rhywun yn marw'n sydyn wrth ei ymyl, a phen y Nasaread yn cael ei halogi, yna y mae i eillio ei ben ar y dydd y glanheir ef, sef y seithfed dydd.
10 Ar yr wythfed dydd, y mae i ddod â dwy durtur neu ddau gyw colomen at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod,
11 a bydd yntau'n offrymu un yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm i wneud cymod drosto, am iddo bechu trwy gyffwrdd â'r corff marw. Ar y dydd hwnnw hefyd bydd yn sancteiddio ei ben,
12 ac yn ymgysegru i'r ARGLWYDD ar gyfer ei ddyddiau fel Nasaread, a daw ag oen gwryw yn offrwm dros gamwedd; diddymir ei ddyddiau blaenorol fel Nasaread oherwydd iddo gael ei halogi.
13 “ ‘Dyma'r ddeddf ar gyfer y Nasaread, pan ddaw cyfnod ei ymgysegriad i ben: deuer ag ef at ddrws pabell y cyfarfod
14 lle bydd yn cyflwyno offrymau i'r ARGLWYDD, sef oen gwryw di-nam yn boethoffrwm, hesbin ddi-nam yn aberth dros bechod, a hwrdd di-nam yn heddoffrwm,
15 ynghyd â basgedaid o fara croyw, teisennau peilliaid wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, ynghyd â'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm.