10 Ar y dydd yr eneiniwyd yr allor, daeth yr arweinwyr â'r aberthau a'u hoffrymu o flaen yr allor i'w chysegru.
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Bydd un arweinydd bob dydd yn cyflwyno'i offrymau i gysegru'r allor.”
12 Yr arweinydd a gyflwynodd ei offrwm ar y dydd cyntaf oedd Nahson fab Amminadab o lwyth Jwda.
13 Ei offrwm ef oedd: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
14 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
15 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
16 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;