12 Yr arweinydd a gyflwynodd ei offrwm ar y dydd cyntaf oedd Nahson fab Amminadab o lwyth Jwda.
13 Ei offrwm ef oedd: plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
14 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
15 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
16 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
17 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Nahson fab Amminadab.
18 Ar yr ail ddydd, offrymodd Nethanel fab Suar, arweinydd Issachar, ei offrwm yntau: