62 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
63 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
64 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
65 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Abidan fab Gideoni.
66 Ar y degfed dydd, offrymodd Ahieser fab Ammisadai, arweinydd pobl Dan, ei offrwm yntau:
67 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
68 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;