70 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;
71 dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahieser fab Ammisadai.
72 Ar yr unfed dydd ar ddeg, offrymodd Pagiel fab Ocran, arweinydd pobl Aser, ei offrwm yntau:
73 plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, a chawg arian yn pwyso saith deg o siclau, yn ôl sicl y cysegr, a'r ddau yn llawn o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer y bwydoffrwm;
74 dysgl aur yn pwyso deg sicl ac yn llawn o arogldarth;
75 bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;
76 bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;