1 Mae'n gas gen i orfod byw!Ydw, dw i'n mynd i gwyno,a dweud mor chwerw dw i'n teimlo.
2 Dweud wrth Dduw, ‘Paid condemnio fi heb achos!Gad i mi wybod pam ti'n ymosod arna i.’
3 Wyt ti'n mwynhau cam-drin pobl?Taflu i ffwrdd waith dy ddwylo,a gwenu ar gynlluniau pobl ddrwg?
4 Wyt ti'n edrych ar bethau trwy lygaid dynol?Wyt ti'n deall pethau fel mae pobl yn eu gweld nhw?
5 Ydy dy fywyd di mor fyr â bywyd rhywun meidrol?Ydy dy flynyddoedd di'n mynd heibio fel ein blynyddoedd ni?
6 Ai dyna pam ti'n chwilio am fy meiau ia cheisio dod o hyd i'm pechod?
7 Ti'n gwybod yn iawn nad ydw i'n euog,ond all neb fy achub o dy ddwylo di.
8 Dy ddwylo di wnaeth fy naddu i a'm creu,ond yna dyma ti'n troi i'm dinistrio'n llwyr!
9 Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai.Wyt ti'n mynd i wneud llwch ohono i eto?
10 Ti dywalltodd fi fel llaeth i'r groth,a'm ceulo fel caws ym mol fy mam.
11 Gwisgaist fi â chnawd a chroen,a gweu fy esgyrn a'm gewynnau at ei gilydd.
12 Ti roddodd fywyd i mi, a gofalu amdana i –dy ofal di sydd wedi fy nghadw i'n fyw.
13 Ond roeddet ti'n cuddio dy gynllun go iawn.Dw i'n gwybod mai dyma oedd dy fwriad:
14 Fy ngwylio i, i weld fyddwn i'n pechu,ac wedyn gwrthod gadael i mi fynd.
15 Os ydw i'n euog – mae ar ben arna i!Ond hyd yn oed os ydw i'n ddieuog, alla i ddim codi fy mhen;dw i'n llawn cywilydd ac wedi cael llond bol o ofid.
16 Os coda i fy mhen, rwyt yn fy hela fel llew,i ddangos dy hun yn rhyfeddol – a hynny ar fy nhraul i!
17 Ti'n galw tystion newydd yn fy erbyn,ac yn troi'n fwy a mwy dig gyda mi;dod â byddin newydd yn fy erbyn o hyd.
18 Felly pam wnest ti adael i mi ddod allan o'r groth?Pam wnes i ddim marw bryd hynny, cyn i neb fy ngweld i? –
19 Byddai'n braf petawn i erioed wedi bodoli.Neu wedi cael fy nghario o'r groth i'r bedd!
20 Mae fy nyddiau i mor brin, felly stopia!Gad lonydd i mi, i mi gael ychydig o gysur!
21 Cyn i mi fynd – heb fyth ddod yn ôl –i wlad y twyllwch dudew,