Job 28 BNET

Duw a doethineb

1 Mae cloddfa i arian,a lle i aur gael ei buro.

2 Mae haearn yn cael ei dynnu o'r ddaear,a chopr yn cael ei doddi o'r garreg.

3 Mae dynion yn mynd â golau i'r tywyllwch,ac yn chwilio ym mhob cilfacham y mwynau sy'n y tywyllwch dudew.

4 Maen nhw'n agor siafft ymhell oddi wrth bawb,mewn lleoedd nad oes neb wedi cerdded,ac yn siglo wrth hongian ymhell o olwg pobl.

5 Ar y ddaear mae bwyd yn tyfu,ond islaw mae tân yn ei thoddi.

6 Mae saffir i'w gael yn y cerrig,ac aur yn ei llwch hefyd.

7 All aderyn rheibus ddim mynd ato;all llygad barcud ddim gweld y llwybr yno.

8 Fu anifeiliaid rheibus ddim yn troedio yno;does dim llew wedi pasio heibio.

9 Mae chwarelwyr yn taro'r graig galed,ac yn symud sylfeini'r mynyddoedd.

10 Maen nhw'n agor siafftiau yn y creigiau,ac yn edrych am bethau gwerthfawr.

11 Maen nhw'n archwilio ble mae afonydd yn tarddua dod â'r hyn oedd o'r golwg i'r golau.

12 Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb?Ble mae deall i'w gael?

13 Does neb yn gwybod ble mae;dydy e ddim i'w gael ar dir y byw.

14 Mae'r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’a'r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’

15 Does dim modd ei brynu gyda bar o aur,na thalu amdano drwy bwyso arian.

16 Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir,nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith.

17 Dydy aur na grisial ddim cystal,ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano.

18 Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw;mae pris doethineb yn uwch na pherlau.

19 Dydy topas Affrica yn werth dim o'i gymharu,a dydy aur pur ddim yn ddigon i'w brynu.

20 O ble mae doethineb yn dod?Ym mhle mae deall i'w gael?

21 Mae wedi ei guddio oddi wrth bopeth byw,hyd yn oed yr adar yn yr awyr.

22 Mae Abadon a Marwolaeth yn dweud,‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’

23 Dim ond Duw sy'n gwybod sut i'w gyrraedd;Mae e'n gwybod o ble mae'n dod.

24 Mae e'n gweld i bedwar ban byd;mae'n gweld popeth sydd dan yr haul.

25 Pan benderfynodd pa mor gryf ydy'r gwynt,a mesur maint y dyfroedd;

26 pan osododd reolau i'r glawa llwybr i'r mellt a'r taranau,

27 gwelodd ddoethineb, a mesur ei werth;ei sefydlu a'i archwilio'n ofalus.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42