Job 29 BNET

Job yn crynhoi ei achos

1 Yna aeth Job yn ei flaen i ddweud:

2 “O na fyddai pethau fel yr oedden nhw o'r blaen,pan oedd Duw yn gofalu amdana i.

3 Roedd golau ei lamp uwch fy mhen,ac ro'n i'n cerdded drwy'r tywyllwch yn ei olau e.

4 Roedd popeth yn mynd yn iawn,ac roedd Duw fel ffrind agos i'r teulu.

5 Roedd yr Un sy'n rheoli popeth gyda mi bryd hynny,a'm plant i gyd o'm cwmpas i.

6 Ro'n i'n byw yn fras – ar ben fy nigon,roedd ffrydiau o olew yn llifo rhwng y meini.

7 Ro'n i'n cerdded drwy giât y ddinas,ac yn eistedd ar y cyngor yn y sgwâr.

8 Roedd dynion ifanc yn camu o'r ffordd i mi,a'r dynion hŷn yn codi ar eu traed.

9 Roedd yr arweinwyr yn dal eu tafod,ac yn rhoi eu llaw dros eu cegau.

10 Roedd y swyddogion yn cadw'n dawel,fel petai eu tafod wedi glynu wrth dop y geg.

11 Roedd pawb oedd yn gwrando arna i yn canmol,a phawb oedd yn fy ngweld yn siarad yn dda,

12 am fy mod i'n achub y tlawd oedd yn galw am help,a'r plentyn amddifad oedd heb neb i'w helpu.

13 Roedd pobl oedd bron wedi marw yn fy mendithio,ac roeddwn i'n gwneud i'r weddw ganu'n llawen.

14 Roedd cyfiawnder fel gwisg amdana i,a thegwch fel mantell a thwrban.

15 Ro'n i'n llygaid i'r dallac yn draed i'r cloff.

16 Ro'n i'n dad i'r rhai mewn angen,ac yn gwrando ar achos y rhai dieithr.

17 Ro'n i'n dryllio dannedd y dyn drwg,ac yn gwneud iddo ollwng ei ysglyfaeth.

18 Dyma roeddwn i'n ei dybio:‘Bydda i'n aros gyda'm teulu nes i mi farw,ac yn cael byw am flynyddoedd lawer.

19 Bydda i fel coeden a'i gwreiddiau'n cyrraedd y dŵr,a'r gwlith yn aros ar ei changhennau.

20 Bydd fy nerth yn cael ei adnewyddu,a'm bwa yn newydd yn fy llaw.’

21 Roedd pobl yn gwrando'n astud arna i,ac yn cadw'n dawel wrth i mi roi cyngor.

22 Ar ôl i mi siarad doedd gan neb ddim mwy i'w ddweud –roedd fy ngeiriau yn disgyn yn dyner ar eu clustiau.

23 Roedd disgwyl i mi siarad fel disgwyl am law,disgwyl yn frwd am y glaw yn y gwanwyn.

24 Pan fyddwn i'n gwenu, bydden nhw wrth eu boddau;doedden nhw ddim eisiau fy nigio i.

25 Fi oedd yn dangos y ffordd, fi oedd yn ben;ron i fel brenin yng nghanol ei filwyr;ron i'n cysuro'r rhai sy'n galaru.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42