Job 4 BNET

Y cylch cyntaf o ddadleuon

Ymateb Eliffas: Mae'r dieuog yn llwyddo

1 A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:

2 “Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair?Mae'n anodd peidio dweud rhywbeth!

3 Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu,a'r holl rai gwan wnest ti eu hannog a'u helpu.

4 Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu,ac yn cryfhau'r rhai oedd yn simsanu.

5 Ond nawr, mae wedi digwydd i ti,a fedri di ddim godde'r peth;mae drwg wedi dy daro,a dyma ti yn anobeithio!

6 Ydy dy grefydd ddim yn dy gynnal?Ydy dy fywyd da ddim yn rhoi gobaith i ti?

7 Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed?Ble cafodd y rhai sy'n byw'n iawn eu difa'n llwyr?

8 Fel yma dw i'n ei gweld hi: Y rhai sy'n aredig drygioniac yn hau helynt sy'n medi cynhaeaf hynny!

9 Mae Duw yn chwythu arnyn nhw,ac maen nhw'n cael eu difa;maen nhw'n diflannu gydag anadl ei ffroenau.

10 Maen nhw fel y llew yn rhuo, a'i rai bach yn cwyno,pan mae dannedd y llewod ifanc wedi eu torri.

11 Heb ysglyfaeth mae'r llew cryf yn marw,a chenawon y llewes yn mynd ar wasgar.

Gweledigaeth Eliffas

12 Ces neges yn dawel o'r dirgel,dim ond sibrydiad bach a glywais.

13 Yng nghanol breuddwydion dryslyd y nos,pan mae pobl yn cysgu'n drwm.

14 Ro'n i wedi dychryn, ac yn crynu trwof;roedd fel ias drwy fy esgyrn i gyd!

15 Teimlais awel yn pasio heibio i'm hwyneb,a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.

16 Roedd siâp rhywun yn sefyll o'm blaen,ond doeddwn i ddim yn ei nabod.Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd:

17 ‘Ydy person dynol yn fwy cyfiawn na Duw?Ydy pobl yn fwy pur na'r Un wnaeth nhw?

18 Os ydy Duw ddim yn trystio ei weision,ac yn cyhuddo ei angylion o fod yn ffôl,

19 pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd,ac yn tarddu o'r llwch –y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn!

20 Gallan nhw gael eu sathru'n farw,unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud,a'u difa'n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw.

21 Mae rhaffau eu pebyll daearol yn cael eu codi,ac maen nhw'n marw mewn anwybodaeth.’

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42