1 Yna dwedodd Elihw:
2 “Gwrandwch be dw i'n ddweud, chi ddynion doeth;Dych chi'n ddynion deallus, felly gwrandwch yn astud.
3 Mae'r glust yn profi geiriaufel mae'r geg yn blasu bwyd.
4 Gadewch i ni ystyried beth sy'n wir;a phenderfynu rhyngon beth sy'n iawn.
5 Mae Job wedi dweud, ‘Dw i'n ddieuog;dydy Duw ddim wedi bod yn deg â mi.
6 Fi sy'n iawn. Ydw i i fod i ddweud celwydd?Dw i wedi fy anafu, a does dim gwella ar y clwyf,er fy mod heb droseddu.’
7 Oes rhywun tebyg i Job?Mae'n dangos dirmyg fel yfed dŵr!
8 Mae'n cadw cwmni cnafonac yn ymddwyn fel pobl ddrwg!
9 Achos mae wedi dweud, ‘Does dim pwyntbyw i blesio Duw.’
10 Felly, gwrandwch chi ddynion deallus,Fyddai Duw byth yn gwneud drwg;a'r Un sy'n rheoli popeth yn gwneud dim o'i le!
11 Mae e'n talu i bobl am yr hyn maen nhw'n ei wneud,mae pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu!
12 Dydy Duw yn sicr ddim yn gwneud drwg;dydy'r Un sy'n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder.
13 Pwy roddodd y ddaear yn ei ofal?Pwy roddodd hawl iddo roi trefn ar y byd?
14 Petai'n dewis, gallai gymrydei ysbryd a'i anadl yn ôl,
15 a byddai pob creadur byw yn marw,a'r ddynoliaeth yn mynd yn ôl i'r pridd.
16 Gwranda, os wyt ti'n ddyn deallus;gwrando'n astud ar beth dw i'n ddweud.
17 Ydy rhywun sy'n casáu cyfiawnder yn gallu llywodraethu?Wyt ti'n mynd i gondemnio'r Un Grymus a Chyfiawn
18 sy'n dweud wrth frenin, ‘Y pwdryn diwerth!’ac wrth wŷr bonheddig, ‘Y cnafon drwg!’?
19 Dydy e ddim yn ochri gyda thywysogion,nac yn ffafrio'r cyfoethog ar draul y tlawd;am mai gwaith ei ddwylo e ydyn nhw i gyd!
20 Maen nhw'n marw yn sydyn yng nghanol y nos;mae'r bobl fawr yn cael eu hysgwyd, ac yn diflannu;mae'r pwerus yn cael eu symud o'r ffordd yn hawdd.
21 Mae e'n cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud;mae'n gwybod am bob symudiad.
22 Does dim tywyllwch na chwmwllle gall pobl ddrwg guddio.
23 Nid lle pobl ydy gosod amseri ddod o flaen Duw i gael eu barnu!
24 Mae'n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad,ac yn gosod eraill i gymryd eu lle.
25 Am ei fod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud,mae'n eu dymchwel dros nos, a'u dryllio.
26 Mae'n eu taro nhw i lawr fel pobl ddrwg,ac yn gwneud hynny o flaen pawb,
27 am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon iddo,a gwrthod cymryd sylw o'i ffyrdd.
28 Maen nhw wedi achosi i'r tlodion alw arno,a gwneud iddo wrando ar gri'r anghenus.
29 Os ydy Duw'n cadw'n dawel, pwy sydd i'w feirniadu?Os ydy e'n cuddio, pwy all ddod o hyd iddo?Ond mae e'n dal i wylio dros wledydd a dynoliaeth,
30 rhag i rywun annuwiol deyrnasua gosod maglau i'r bobl.
31 Ond os dywed rhywun wrth Dduw,‘Dw i'n euog, a wna i ddim troseddu eto.
32 Dysga fi am y drwg dw i ddim yn ei weld.Os dw i wedi gwneud drwg, wna i ddim yr un peth eto.’
33 Wyt ti'n credu y dylai Duw dalu'n ôl iddo,gan dy fod yn gwrthod gwrando?Ti sydd i ddewis, nid fi;Gad i ni glywed beth sydd gen ti i'w ddweud.
34 Bydd dynion deallus yn dweud wrtho i– unrhyw ddyn doeth sy'n gwrando arna i –
35 ‘Mae Job wedi dweud pethau dwl;dydy ei eiriau'n gwneud dim sens.’
36 Dylai gael ei gosbi i'r eithafam siarad fel mae pobl ddrwg yn siarad.