1 Galw am help! Fydd rhywun yn dy ateb di?At ba un o'r angylion sanctaidd wyt ti'n mynd i droi?
2 Mae'r ffŵl byrbwyll yn marw o ddiffyg amynedd,a'r person dwl pan mae'n dal dig.
3 Dw i wedi gweld y ffŵl yn llwyddo a gwreiddio,ond yna'n sydyn roedd ei gartre wedi ei felltithio.
4 Dydy ei blant byth yn saff –byddan nhw'n colli'r achos yn y llys, heb neb i'w hachub.
5 Bydd pobl newynog yn bwyta ei gnydau,a'i gario i ffwrdd i'w guddio;a'r rhai sy'n llwgu yn ysu am ei gyfoeth.
6 Dydy profiadau drwg ddim yn tyfu o'r pridd,na thrafferthion yn egino o'r ddaear;
7 ond mae pobl yn cael eu geni i drafferthion,mor siŵr ag mae gwreichion yn hedfan i fyny.
8 Petawn i'n ti, byddwn i'n troi at Dduw,ac yn gosod fy achos o'i flaen.
9 Mae e'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni,cymaint o bethau rhyfeddol, ni ellir eu cyfri!
10 Mae e'n anfon glaw i'r ddaear,ac yn dyfrio'r caeau.
11 Mae e'n codi'r rhai sy'n isel,ac yn gwneud y rhai sy'n galaru yn ddiogel.
12 Mae e'n drysu cynlluniau'r cyfrwys,i'w hatal rhag llwyddo.
13 Mae'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw;mae cynlluniau'r cyfrwys yn mynd o chwith.
14 Maen nhw'n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd,ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai'n nos!
15 Ond mae e'n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon,a'r anghenus o afael y rhai cryf.
16 Felly mae gobaith i'r tlawd,ac mae anghyfiawnder yn gorfod tewi!
17 Mae'r rhai mae Duw'n eu ceryddu wedi eu bendithio'n fawr;felly paid gwrthod disgyblaeth y Duw sy'n rheoli popeth!
18 Mae e yn anafu, ond hefyd yn rhwymo'r anaf;Mae'n dolurio, ond mae ei ddwylo hefyd yn iacháu.
19 Bydd yn dy achub rhag un trychineb ar ôl y llall;chei di ddim niwed byth.
20 Mewn newyn bydd yn dy ryddhau o afael marwolaeth,ac mewn rhyfel, o afael y cleddyf.
21 Byddi'n cael dy amddiffyn rhag y tafod maleisus;a fyddi di ddim yn ofni dinistr pan ddaw yn agos.
22 Byddi'n gwawdio dinistr a newyn,a fydd gen ti ddim ofn anifeiliaid gwylltion.
23 Bydd cerrig yn cytuno i gadw draw o dy dir,a fydd anifeiliaid gwylltion ddim yn ymosod arnat ti.
24 Byddi'n gwybod fod dy gartref yn ddiogel,ac wrth archwilio dy anifeiliaid, fydd dim un ar goll.
25 Byddi'n siŵr o gael llawer iawn o blant;bydd dy ddisgynyddion fel glaswellt ar y tir.
26 Byddi mewn oedran mawr pan gyrhaeddi'r bedd,fel ysgub o wenith yn cael ei gasglu yn ei dymor.
27 Edrych! Dŷn ni wedi astudio hyn yn fanwl, ac mae'n wir.Felly gwrando, a meddylia sut mae'n berthnasol i ti.”