1 A dyma Job yn ateb:
2 “O, ti'n gymaint o help i'r gwan!Ti wedi cynnal braich yr un sydd heb nerth!
3 Mae dy gyngor mor werthfawr i rywun sydd mor ddwl!Ti wedi bod mor hael yn rhannu dy ddoethineb!
4 Pwy wnaeth ddysgu hyn i gyd i ti?Pwy sy'n dy ysbrydoli i siarad fel yma?
5 Mae'r meirw yn crynu o flaen Duw –pawb sy'n byw yn y byd dan y dŵr.
6 Mae Annwn yn noeth o'i flaen,ac Abadon heb orchudd i'w guddio.
7 Duw sy'n lledu'r sêr dros yr anhrefn,ac yn hongian y ddaear uwch y gwagle.
8 Mae'n rhwymo'r dŵr yn ei gymylau trwchus,ond does yr un yn byrstio dan y pwysau.
9 Mae'n cuddio wyneb y lleuad llawndrwy ledu ei gymylau drosto.
10 Mae'n marcio'r gorwel ar wyneb y moroedd,fel terfyn rhwng y golau a'r tywyllwch.
11 Mae colofnau'r nefoedd yn crynu,wedi eu dychryn gan ei gerydd.
12 Mae'n gallu tawelu'r môr;trawodd fwystfil y môr i lawr drwy ei ddoethineb.
13 Mae ei wynt yn clirio'r awyr;trywanodd y sarff wibiog â'i law.
14 A dydy hyn prin yn cyffwrdd ei allu! –mae fel rhyw sibrydiad bach tawel.Pwy all ddychmygu holl rym ei nerth?”