1 Byr ydy bywyd dyn, wedi ei eni o wraig,ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion.
2 Mae'n blodeuo ac yna'n gwywo;mae'n diflannu fel cysgod, a byth yn aros.
3 Ai ar un felly wyt ti'n syllu?Wyt ti am fy rhoi i ar brawf?
4 Pwy all wneud yr aflan yn lân?Does neb!
5 Mae dyddiau rhywun wedi eu rhifo;ti'n gwybod faint o fisoedd fydd e'n bywac wedi gosod ffin fydd e byth yn ei chroesi.
6 Edrych i ffwrdd a gad lonydd iddo,fel gwas cyflog wedi gorffen ei waith.
7 Mae gobaith i goeden dyfu etoar ôl cael ei thorri i lawr.Fydd ei blagur newydd ddim yn methu.
8 Er bod ei gwreiddiau'n hen yn y pridd,a'i boncyff wedi dechrau pydru,
9 mae'n synhwyro dŵr ac yn blaguro eto,a'i brigau'n tyfu fel petai newydd ei phlannu.
10 Ond mae'r dyn cryfaf yn marw heb gryfder;mae'n anadlu am y tro olaf, ac mae wedi mynd.
11 Fel dŵr yn diflannu o lyn,neu afon yn llifo i ffwrdd ac yn sychu.
12 Mae pobl feidrol yn gorwedd a byth yn codi;Fydd dim deffro na chodi o'u cwsgtra bydd yr awyr yn dal i fod.
13 O na fyddet ti'n fy nghuddio'n saff yn y bedd,a'm cadw o'r golwg nes i dy ddigofaint fynd heibio;yna gosod amser penodol i'm cofio i eto.
14 Ar ôl i rywun farw, fydd e'n cael byw eto?Ar hyd fy mywyd caled byddwn i'n disgwyli rywun ddod i'm rhyddhau.
15 Byddet ti'n galw, a byddwn innau'n dod;byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo.
16 Byddet ti'n gofalu amdana i bob cam,heb wylio am fy mhechod o hyd.
17 Byddai pob trosedd o'r golwg mewn bag wedi ei selio,a'm pechod wedi ei guddio dan orchudd.
18 Ond na, fel mae mynyddoedd yn cael eu herydu,a chreigiau yn syrthio o'u lle;
19 neu fel mae dŵr yn gwneud carreg yn llyfn,a glaw trwm yn golchi ymaith bridd y ddaear;dyna sut rwyt ti'n lladd gobaith rhywun.
20 Ti'n ei drechu'n llwyr – mae ar ben arno!Rwyt yn ei anffurfio ac yn ei anfon i ffwrdd.
21 Fydd e ddim yn gwybod os bydd ei feibion yn cael anrhydedd;nac yn ymwybodol os cân nhw eu bychanu.