Job 32 BNET

Araith Elihw

1 Felly dyma'r tri dyn yn stopio dadlau gyda Job, am ei fod mor siŵr ei fod yn iawn.

2 Ond roedd Elihw fab Barachel o deulu Bws, oedd yn perthyn i glan Ram, wedi gwylltio lân gyda Job am fynnu mai fe oedd yn iawn ac nid Duw.

3 Roedd yn wyllt gyda'r tri chyfaill hefyd, oedd yn condemnio Job ac eto'n methu ei ateb.

4 Roedd Elihw wedi cadw'n dawel tra roedden nhw'n siarad gyda Job, am eu bod nhw'n hŷn nag e.

5 Ond pan welodd Elihw nad oedd y tri yn gallu ateb Job, roedd e wedi gwylltio'n lân.

Ymateb cyntaf Elihw

6 Yna dyma Elihw fab Barachel o deulu Bws yn dweud fel hyn:“Dyn ifanc dw i, a chi i gyd yn hen;felly dw i wedi bod yn cadw'n dawelac yn rhy swil i ddweud be dw i'n feddwl.

7 Dywedais wrthof fy hun, ‘Gad i'r dynion hŷn siarad;rho gyfle i'r rhai sydd a phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’

8 Ond Ysbryd Duw yn rhywun,anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n gwneud iddo ddeall.

9 Nid dim ond pobl mewn oed sy'n ddoeth,does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy'n iawn.

10 Felly dw i'n dweud, ‘Gwrandwch arna i,a gadewch i mi ddweud be dw i'n feddwl.’

11 Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad,ac yn gwrando'n ofalus ar eich dadleuon chi,wrth i chi drafod y pethau hyn.

12 Ond mae'n gwbl amlwg i mifod dim un ohonoch chi'n gallu ateb Job,a gwrthbrofi'r hyn mae wedi ei ddweud.

13 A peidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn –Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’

14 Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto,a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi.

15 Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach;does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud.

16 Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw'n dawel?Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb.

17 Mae fy nhro i wedi dod i ddweud fy mhwt;cyfle i mi ddweud be dw i'n feddwl.

18 Mae gen i gymaint i'w ddweud,alla i ddim peidio dweud rhywbeth.

19 Dw i'n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor;fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio.

20 Mae'n rhaid i mi siarad, does gen i ddim dewis.Gadewch i mi ddweud rhywbeth, i'w ateb.

21 Dw i ddim yn mynd i gadw ochr neb,na ffalsio drwy roi teitlau parchus i bobl;

22 dw i ddim yn gwybod sut i seboni –petawn i'n gwneud hynny,byddai'r Duw a'm gwnaeth i yn fy symud yn ddigon buan!

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42