Job 39 BNET

1 Wyt ti'n gwybod pryd mae geifr mynydd yn cael eu geni?Wyt ti wedi gwylio'r ceirw yn esgor ar rai bach?

2 Wyt ti wedi cyfri'r misoedd tra maen nhw'n disgwyl?Wyt ti'n gwybod pryd yn union maen nhw'n geni rhai bach,

3 yn crymu wrth roi genedigaeth,ac yn bwrw eu brych?

4 Mae'r rhai bach yn tyfu'n iach, allan yng nghefn gwlad;yna'n gadael y fam, a byth yn dod yn ôl.

5 Pwy wnaeth ollwng yr asyn gwyllt,a datod ei ffrwyn iddo fynd yn rhydd?

6 Rhoi'r anialwch yn gartre iddo,a'r tir diffaith yn lle iddo fyw.

7 Y mae'n gwawdio twrw'r dre,ac yn fyddar i floedd unrhyw feistr.

8 Mae'n crwydro'r mynyddoedd am borfa,yn chwilio am laswellt i'w fwyta.

9 Fyddai'r ych gwyllt yn fodlon gweithio i ti,ac aros dros nos wrth gafn bwydo?

10 Alli di ei gadw yn y gwys gyda rhaff?Fydd e'n dy ddilyn ac yn trin y tir?

11 Alli di ddibynnu arno gan ei fod mor gryf,a gadael iddo wneud dy waith caled yn dy le?

12 Fyddet ti'n disgwyl iddo i ddod yn ôla chasglu dy rawn i'r llawr dyrnu?

13 Mae adenydd yr estrys yn ysgwyd yn llawen;ond does ganddi ddim plu i hedfan fel y garan!

14 Mae hi'n dodwy ei hwyau ar lawr,ac yn eu gadael i gynhesu ar y tywod,

15 heb feddwl y gallen nhw gael eu sathru,ac y gallai anifail gwyllt eu malu dan draed.

16 Mae'n trin ei chywion yn greulon,fel petaen nhw ddim yn perthyn iddi;dydy hi'n poeni dim y gallai ei llafur fod yn ofer.

17 Gadawodd Duw hi heb ddoethineb,roddodd e ddim mymryn o ddeall iddi.

18 Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg,mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog!

19 Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl?Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng?

20 Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust,a chreu dychryn wrth weryru?

21 Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau,ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr.

22 Does ganddo ddim ofn; does dim yn ei ddychryn;dydy e ddim yn cilio oddi wrth y cleddyf.

23 Mae llond cawell o saethau'n chwyrlïo heibio iddo,a'r waywffon a'r cleddyf yn fflachio.

24 Mae'n llawn cynnwrf, ac yn carlamu'n wyllt;mae'n methu aros yn llonydd pan mae'r corn hwrdd yn seinio.

25 Mae'n synhwyro'r frwydr o bell;mae'n gweryru wrth glywed y corn hwrdd,a gwaedd swyddogion yn bloeddio gorchmynion.

26 Ai dy ddoethineb di sy'n gwneud i'r hebog hedfan,a lledu ei adenydd i droi tua'r de?

27 Ai dy orchymyn di sy'n gwneud i'r fwltur hofran,a gosod ei nyth ar y creigiau uchel?

28 Mae'n byw ar y graig, lle mae'n treulio'r nos;mae'r clogwyn yn gaer ddiogel iddo.

29 Oddi yno mae'n chwilio am fwyd,ac yn syllu arno o bell;

30 bydd ei gywion yn llowcio gwaed.Ble mae corff marw, mae'r fwltur yno.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42