1 Dyma Job yn ateb:
2 “Dw i am gwyno yn ei erbyn eto heddiw;mae e'n dal i'm cosbi er fy mod i'n griddfan.
3 O na fyddwn i'n gwybod ble i ddod o hyd iddo,a sut i gyrraedd ei orsedd, lle mae'n barnu!
4 Byddwn yn gosod fy achos ger ei fronac yn cyflwyno llond ceg o ddadleuon iddo.
5 Byddwn i'n gweld wedyn sut byddai'n fy ateb ia dechrau deall beth mae'n ddweud wrtho i.
6 Fyddai e'n fy sathru trwy ddadlau yn fy erbyn?Na, byddai'n rhoi gwrandawiad teg i mi.
7 Yno gall dyn gonest gyflwyno ei achos o'i flaen.Byddai fy marnwr yn fy nghael yn ddieuog am byth!
8 Dw i'n edrych i'r dwyrain, a dydy e ddim yno;i'r gorllewin, ond dw i'n dal ddim yn ei weld.
9 Edrych i'r gogledd, a methu dod o hyd iddo;I'r de, ond does dim sôn amdano.
10 Ond mae e'n gwybod popeth amdana i;wedi iddo fy mhrofi, bydda i'n dod allan fel aur pur.
11 Dw i wedi ei ddilyn yn ffyddlon,ac wedi cadw ei ffyrdd heb wyro.
12 Dw i ddim wedi tynnu'n groes i'w orchmynion;a dw i wedi trysori ei eiriau'n fwy na dim byd.
13 Fe ydy'r unig Un; pwy all newid ei feddwl?Mae'n gwneud beth bynnag mae e eisiau.
14 Bydd yn cyflawni ei gynllun ar fy nghyfer i,fel llawer o gynlluniau eraill sydd ganddo.
15 Dyna pam dw i wedi dychryn o'i flaen;Mae meddwl am y peth yn codi ofn arna i.
16 Mae Duw wedi gwneud i mi anobeithio;mae'r Un sy'n rheoli popeth yn codi arswyd arna i!
17 Ond er gwaetha'r tywyllwch, dw i ddim wedi tewi –y tywyllwch dudew ddaeth drosta i.