1 A dyma Soffar o Naäma yn ymateb:
2 “Mae'n rhaid ateb y malu awyr diddiwedd yma!Ydy siarad di-baid yn gwneud rhywun yn iawn?
3 Wyt ti'n meddwl fod dy barablu di yn mynd i dewi dynion?Oes neb yn mynd i dy geryddu di am dy siarad gwawdlyd?
4 Ti'n dweud, ‘Mae beth dw i'n gredu yn iawn,a dw i'n lân yn dy olwg di, O Dduw.’
5 O na fyddai Duw yn dweud rhywbeth,yn dy ateb di drosto'i hun,
6 ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn!Mae dwy ochr i bob stori!Byddet ti'n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti'n ei haeddu!
7 Wyt ti'n meddwl dy fod yn deall hanfod Duw?Wyt ti wedi darganfod ffiniau i allu'r Un sy'n rheoli popeth?
8 Mae'n uwch na'r nefoedd – beth alli di ei wneud?Mae'n ddyfnach nag Annwn – beth wyt ti'n ei wybod?
9 Mae'n fwy na'r ddaearac yn lletach na'r môr.
10 Os ydy Duw'n dod heibio ac arestio rhywun,a mynd ag e i'r llys, pwy sy'n gallu ei rwystro?
11 Achos mae e'n nabod y rhai sy'n twyllo;pan mae'n gweld drygioni, mae'n delio ag e.
12 Ond mae mor amhosib i ddyn dwl droi'n ddoethag ydy hi i asyn gwyllt gael ei eni'n ddof!
13 Os gwnei di droi at Dduw,ac estyn dy ddwylo ato mewn gweddi –
14 troi cefn ar y drwg rwyt ti wedi ei wneud,a pheidio rhoi lle i anghyfiawnder –
15 yna byddi'n dal dy ben yn uchel, heb gywilydd,ac yn gallu sefyll yn gadarn, heb ofn.
16 Byddi'n anghofio dy holl drybini –bydd fel dŵr wedi mynd dan y bont.
17 Bydd bywyd yn brafiach na chanol dydd,a'r adegau mwyaf tywyll yn olau fel y bore!
18 Byddi'n teimlo'n saff, am fod gen ti obaith;yn edrych o dy gwmpas ac yn gorffwys yn ddiogel.
19 Byddi'n gorwedd i lawr, heb angen bod ofn;a bydd llawer yn ceisio ennill dy ffafr.