1 Pam nad ydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cadw dyddiau barn?Pam nad ydy'r rhai sy'n ei nabod yn cael gweld hynny?
2 Mae pobl ddrwg yn dwyn tir drwy symud ffiniau,ac yn cymryd praidd pobl eraill i'w bugeilio.
3 Maen nhw'n dwyn asynnod yr amddifad,ac yn cadw ychen y weddw sydd mewn dyled.
4 Maen nhw'n gwthio'r anghenus o'r ffordd,ac mae pobl dlawd yn gorfod mynd i guddio.
5 Fel asynnod gwyllt yn yr anialwch,mae'r tlodion yn mynd allan i weithio,ac yn chwilio am fwyd ar dir diffaith –bwyd iddyn nhw a'u plant.
6 Maen nhw'n casglu cnwd ebran o gaeau pobl eraill,a lloffa grawnwin o winllannoedd pobl ddrwg.
7 Maen nhw'n treulio'r nos yn noeth a heb ddillad,heb orchudd i'w hamddiffyn rhag yr oerni.
8 Maen nhw'n wlyb domen yn y glaw trwm,ac yn swatio gyda'i gilydd dan loches y graig.
9 Mae plentyn y weddw'n cael ei gipio o'r fron,a babanod y tlawd yn cael eu cymryd am ddyled.
10 Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn noeth, heb ddillad,ac yn llwgu wrth gario ysgubau pobl eraill.
11 Maen nhw'n gwasgu'r olewydd rhwng y meini,ac yn sathru'r grawnwin i'r cafnau, ond yn sychedig.
12 Mae pobl yn griddfan marw yn y ddinas;a dynion wedi eu hanafu yn gweiddi am help;ond dydy Duw'n cyhuddo neb am wneud y drwg.
13 Mae rhai pobl yn gwrthod y golau;dŷn nhw ddim yn gwybod am ei ffyrddnac yn aros ar ei lwybrau.
14 Mae'r llofrudd yn codi cyn iddi wawrioi ladd y tlawd a'r anghenus;mae e fel y lleidr yn y nos.
15 Mae'r un sy'n godinebu yn disgwyl iddi dywyllu;mae'n gwisgo mwgwd ar ei wyneb,gan feddwl, ‘Fydd neb yn fy nabod i.’
16 Mae lladron yn torri i mewn i dai pobl yn y nos,ond yn cuddio o'r golwg drwy'r dydd –dŷn nhw ddim eisiau gwybod am y golau.
17 Maen nhw i gyd yn gweld y bore fel tywyllwch;dyna pryd mae ofn yn gafael ynddyn nhw.
18 Mae rhywun felly fel ewyn ar wyneb y dŵr.Boed i'w dir e gael ei felltithio;boed i neb alw heibio i'w winllannoedd!
19 Fel sychder a gwres yn gwneud i ddŵr eira ddiflannu,mae'r bedd yn cipio'r rhai sydd wedi pechu.
20 Mae'r groth yn ei anghofio,a'r cynrhon yn gwledda arno;a fydd neb yn ei gofio eto;bydd y drwg yn cael ei dorri i lawr fel coeden.
21 Maen nhw'n manteisio ar wraig ddi-blant,ac yn cam-drin y weddw.
22 Ond mae Duw'n gallu cael gwared â'r rhai pwerus,pan mae e'n codi, all neb fod yn siŵr y caiff fyw.
23 Mae'n gadael iddyn nhw gredu eu bod yn saff,ond yn cadw golwg ar beth maen nhw'n ei wneud.
24 Maen nhw'n bwysig am ychydig, ond yna'n diflannu;maen nhw'n syrthio ac yn crino fel glaswellt,ac yn gwywo fel pen y dywysen.
25 Os nad ydy hyn yn wir, pwy sydd am wrthbrofi'r petha dangos fy mod i'n siarad nonsens?”