1 Dw i wedi torri fy nghalon,mae fy nyddiau'n diffodd;dim ond y bedd sydd o'm blaen.
2 Mae pawb o'm cwmpas yn gwawdio,mae fy llygaid yn gorfod diodde'u pryfocio.
3 Cynnig dy hun yn fechnïydd drosto i!Pwy arall sy'n fodlon gwarantu ar fy rhan?
4 Ti wedi dallu'r rhain; dŷn nhw ddim yn deall,felly fyddan nhw ddim yn llwyddo.
5 Maen nhw fel dyn yn cynnig gwledd i'w ffrindiautra mae ei blant ei hun yn llwgu.
6 Dw i wedi cael fy ngwneud yn destun sbort i'r bobl;maen nhw'n poeri yn fy wyneb.
7 Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid,a'm corff i gyd yn ddim ond cysgod.
8 Mae pobl dda yn methu credu'r peth,a'r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol.
9 Mae'r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur,a'r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth.
10 Felly dowch yn eich blaen i ymosod arna i eto!Does dim dyn doeth i'w gael yn eich plith chi!
11 Mae fy mywyd ar ben,a'm cynlluniau wedi eu chwalu –pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud.
12 Mae'r ffrindiau yma'n dweud fod nos yn ddydd!‘Mae'n olau!’ medden nhw, a hithau'n hollol dywyll!
13 Dw i'n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd,a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch;
14 Dw i'n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ –
15 Felly, ble mae fy ngobaith i?Oes rhywun yn gweld unrhyw obaith i mi?
16 Fydd gobaith yn mynd gyda mi drwy giatiau marwolaeth?Fyddwn ni'n mynd i lawr gyda'n gilydd i'r pridd?”