Job 40 BNET

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Job.

2 “Ydy'r un sy'n dadlau gyda'r Hollalluog am ddal i'w gywiro?Beth am i ti sy'n beirniadu Duw roi ateb i mi!”

3 A dyma Job yn ateb:

4 “Mae'n wir, dw i'n neb. Beth alla i ddweud?Dw i'n mynd i gadw'n dawel.

5 Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto.Dw i am ddweud dim mwy.”

6 Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:

7 “Torcha dy lewys fel dyn!Gofynna i gwestiynau, a cei di ateb.

8 Wyt ti'n gwadu fy mod i'n Dduw cyfiawn?Wyt ti'n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy'n iawn?

9 Wyt ti mor gryf ag ydw i?Ydy dy lais di'n gallu taranu fel fy llais i?

10 Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi.Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas.

11 Dangos i bawb mor ddig wyt ti;dos ar ôl y bobl falch, a'u rhoi nhw'n eu lle.

12 Dos ar ôl y bobl falch, a'u cywilyddio nhw;sathra'r rhai drwg yn y fan a'r lle!

13 Cladda nhw yn y llwch,a'u cloi nhw yn y bedd.

14 Gwna i gyfaddef wedyndy fod ti'n ddigon cryf i achub dy hun!

15 Edrych ar y Behemoth, a greais i fel y creais i ti;mae e'n bwyta glaswellt fel ychen.

16 Edrych mor gryf ydy ei gluniau,ac ar gryfder cyhyrau ei fol.

17 Mae'n codi ei gynffon fel coeden gedrwydd;mae gewynnau ei gluniau wedi eu gweu i'w gilydd.

18 Mae ei esgyrn fel pibellau pres,a'i goesau fel barrau haearn.

19 Dyma'r creadur cryfaf a greodd Duw;dim ond ei Grëwr all dynnu'r cleddyf a'i ladd.

20 Y bryniau sy'n rhoi bwyd iddo,ble mae'r holl anifeiliaid gwylltion eraill yn chwarae.

21 Mae'n mynd i orwedd dan y llwyn deiliog,o'r golwg yng nghanol brwyn y gors.

22 Mae'r llwyn yn ei guddio dan ei gysgod;a'r coed helyg sydd o'i gwmpas ger y nant.

23 Dydy e ddim yn dychryn pan mae'r afon wedi chwyddo;mae'n ddigyffro wrth i ddŵr yr Iorddonen ruthro drosto.

24 All unrhyw un ei ddal tra mae'n gwylio,neu wthio bachyn drwy ei drwyn?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42