4 Ond dw i wedi troi yn destun sbort i'm ffrindiau –ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb.Fi, y dyn da a gonest – yn destun sbort!
5 Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion –‘Dyna sy'n digwydd pan mae dyn yn llithro!’
6 Ond mae lladron yn cael bywyd braf,a'r rhai sy'n herio Duw yn byw yn saff –ac yn cario eu duw yn eu dwylo!
7 Ond meddwch chi:‘Gofyn i'r anifeiliaid – byddan nhw'n dy ddysgu;neu i'r adar – byddan nhw'n dweud wrthot ti.
8 Neu gofyn i'r ddaear – bydd hi'n dy ddysgu,ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti.
9 Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybodmai Duw sydd wedi gwneud hyn?
10 Yn ei law e mae bywyd pob creadurac anadl pob person byw.