1 Ydw, dw i wedi gweld hyn i gyd;dw i wedi ei glywed a'i ddeall.
2 Dw i'n gwybod cystal â chi;dw i ddim gwaeth na chi!
3 Ond dw i eisiau siarad â'r Duw sy'n rheoli popeth;dw i am ddadlau fy achos gyda Duw.
4 Dych chi'n palu celwyddau i guddio'r gwir!Cwacs! Dyna beth ydych chi.
5 O na fyddech chi'n cau eich cegau!Dyna fyddai'r peth callaf i chi ei wneud.