10 Bydd e'n siŵr o'ch ceryddu chiam ddangos ffafr annheg ar y slei.
11 Bydd ei ysblander yn codi arswyd arnoch chi,a bydd ei ofn yn cydio ynoch.
12 Geiriau gwag ydy'ch dywediadau slic chi;atebion disylwedd, yn frau fel clai.
13 Byddwch ddistaw, i mi gael cyfle i siarad.Beth bynnag fydd yn digwydd i mi,
14 dw i ddim am ollwng gafael!Dw i'n fodlon mentro fy mywyd!
15 Falle y bydd e'n fy lladd i; dw i heb obaith!Ond dw i'n mynd i amddiffyn fy hun o'i flaen e.
16 Yn wir, gallai hyn droi i fod yn achubiaeth i mi –fyddai'r annuwiol byth yn meiddio sefyll o'i flaen.