16 Yn wir, gallai hyn droi i fod yn achubiaeth i mi –fyddai'r annuwiol byth yn meiddio sefyll o'i flaen.
17 Gwrandwch yn ofalus arna i;clywch beth sydd gen i i'w ddweud.
18 Cewch weld, dw i wedi paratoi fy amddiffyniad,a dw i'n gwybod mai fi sy'n iawn.
19 Petai rhywun yn gallu profi'r achos yn fy erbynbyddwn i'n tewi wedyn a disgwyl marw.
20 Ond gwna ddau beth i mi, o Dduw,fel bod dim rhaid i mi guddio oddi wrthot ti:
21 Tynn dy law yn ôl,a stopia godi dychryn arna i.
22 Yna galw fi i gyfri, a bydda i'n ymateb;neu gad i mi siarad gyntaf, i ti fy ateb i.