11 Ydy'r cysur mae Duw'n ei gynnig ddim digon?Mae ei eiriau mor garedig a thyner.
12 Pam wyt ti'n gadael i deimladau dy reoli?Mae dy lygaid yn dangos dy fod wedi gwylltio.
13 Sut alli di golli dy dymer gyda Duw,a gadael i'r fath eiriau groesi dy wefusau!
14 Sut all person meidrol fod yn lân?Neu un wedi ei eni o wraig honni mai fe sy'n iawn?
15 Os ydy Duw ddim yn gallu trystio ei angylion,a'r byd nefol ddim yn lân yn ei olwg,
16 sut mae'n edrych ar ddynoliaeth ffiaidd, lygredig,sy'n gwneud drwg fel mae'n yfed dŵr!
17 Gwna i ddangos i ti, os gwnei di wrando.Gwna i ddweud beth dw i wedi ei weld –